Cuddio Tudalen Hon
Darllenwch ein cyngor diogelu ar gyfer yr argyfwng Covid-19: Plant | Oedolion

Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

Mae’r Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol yn bartneriaeth Amlasiantaeth sy’n gyfrifol am weithio ar y cyd i oruchwylio diogelwch a lles plant a phobl ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae ar y wefan wybodaeth, cyngor a chanllawiau i’r cyhoedd, plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phlant a’u teuluoedd drwy eu swyddi.

Nod y wefan yw helpu asiantaethau, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, gan gynnwys teuluoedd a rhieni yn ogystal ag aelodau o’r gymdeithas ehangach, i gadw ein plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Newyddion

Beth yw diogelu

Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu plant. Gall pob plentyn gael ei frifo, fod mewn perygl o gael ei niweidio neu ei gam-drin, beth bynnag fo’i oedran, rhyw, crefydd neu ethnigrwydd. Mae deddfwriaeth diogelu a chanllawiau’r llywodraeth yn dweud bod diogelu yn golygu:

  • Amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin
  • Atal unrhyw niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
  • Sicrhau bod plant yn cael eu magu mewn amgylchedd sy’n cynnig gofal diogel ac effeithiol

Rhowch wybod eich barn

Hoffem glywed eich barn ar y wefan hon.   Os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran sut i wella’r gwasanaeth hwn, rhowch wybod i ni.

© BDLP - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd